Mair LloydOBORNEOBORNE - MAIR LLOYD Dymuna Stephen, Joan a Huw, Arnold a Pat a'u teuluoedd ddatgan eu diolch cywiraf am bob arwydd o garedigrwydd a amlygwyd yn ystod gwaeledd Mair ac am bob cydymdeimlad ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth, trwy gardiau, galwadau ff?n ac ymweliadau. Diolch am y gofal tynner gafodd Mair yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Eryri a Chartref Nyrsio Penisarwaen. Diolch yn arbennig i holl staff Plas Pengwaith am eu gofal amdani ac am bob cymorth tra bu'n cartrefu yno yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Hoffem ddiolch i'r teulu, ei chymdogion a ffrindiau lawer am eu cariad cynnes tuag ati bob amser. Diolch i'r Parch Marcus Robinson am ei wasanaeth teimladwy ddydd yr angladd, yn ei chartref ac yn yr Amlosgfa; i Dr. William Munro wrth yr organ ac yn arbennig i Dylan a Meinir Griffith, Ymgymerwyr, am eu trefniadau tawel, parchus a diffuant. Derbyniwyd rhoddion hael tuag at gartref gofal Plas Pengwaith, Llanberis. Diolch pawb.
Keep me informed of updates